Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education · 2026-03-24
DOI: 10.16922/ffocws17 ↗At a glance
Journal article in Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education, published online on 2026-03-24. Written by Lucy Elizabeth McDermott.
Abstract (original language)
Mae’r astudiaeth beilot hon yn archwilio dylanwad Her Minecraft Education ar hyder ac ymgysylltiad disgyblion sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) o safbwynt staff. Mae’r canfyddiadau ansoddol gan aelodau staff (n=11) mewn ysgol gymunedol ADY yn y Gogledd yn dangos bod yr Her wedi cyfrannu at ddatblygu hyder ac ymgysylltiad â’r Her, ac wedi annog creadigrwydd, cyfathrebu a chydweithio rhwng disgyblion sydd ag ADY hefyd. Dangosodd y canfyddiadau hefyd fod ymgysylltiad disgyblion â’r Her wedi cynyddu trwy’r ffactorau canlynol: hyder wrth gyfathrebu; tyfu o ran hyder; hyder wrth gydweithio; cymryd rhan wrth gael hwyl; ac ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad yn y Cwricwlwm newydd i Gymru. Canfyddiad nodedig arall oedd bod cyfranogwyr wedi ennill sgiliau digidol newydd gan y disgyblion, a oedd yn cael ei ystyried yn fath o rymuso i’r disgyblion. Ar ben hynny, roedd aelodau staff yn gweld y gellid defnyddio Minecraft Education i fynd i’r afael â llu o feysydd yn y Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Nid oedd y cyfranogwyr yn gweld yr Her fel rhwystr i ddisgyblion ag ADY, ond yn hytrach fel modd o wella eu hymgysylltiad a’u hyder wrth ddysgu, a thrwy hynny greu tegwch i ddisgyblion ag ADY. Yn olaf, mae angen rhagor o ymchwil ar gymhwyso dysgu seiliedig ar gemau i ddisgyblion ag ADY, gan fod y data presennol yn gyfyngedig yng Nghymru.
Cite
APA
McDermott, L. E. (2026). Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education. https://doi.org/10.16922/ffocws17
Vancouver
McDermott LE. Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education. 2026. doi:10.16922/ffocws17
BibTeX
@article{McDermott2026,
author = {McDermott, Lucy Elizabeth},
title = {Safbwyntiau Staff ar Ddylanwad Her Minecraft Education ar Ddisgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol},
journal = {Cylchgrawn Addysg Cymru / Wales Journal of Education},
year = {2026},
doi = {10.16922/ffocws17}
}
EUVIMED